UWB Crest

Canolfan Cenedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Croeso i Ganolfan Cenedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

NEWYDDION

Dathlu AG at WNCRE

Llyfrgell, Safle’r Normal, Prifysgol Bangor.
Ddydd Mercher, 30 Mawrth am 5pm

Ym Mawrth 2011, bydd Cymru a Lloegr yn cael cyfle i ddathlu Addysg Grefyddol. Fel rhan o’r dathliadau hyn, fe’ch gwahoddir yn gynnes i’r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, sydd wedi ei lleoli’n awr yn y llyfrgell ar Safle’r Normal, Prifysgol Bangor.

Ceir derbyniad i lansio ein lleoliad newydd, ac yna bydd darlith gyhoeddus gyda Mrs Carys Pritchard, Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i ESIS, yn siaradwr gwadd.

ems023@bangor.ac.uk
01248 383594

Cyflwyniad

Mae Canolfan Ragoriaeth sydd wedi gwasanaethu’r maes Addysg Grefyddol ddwyieithog yng Nghymru ers 1979 newydd gyhoeddi cynllun cydweithredol newydd. O 1 Awst 2008, bydd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym Mhrifysgol Bangor dan ofal Prifysgol Bangor ar y cyd â Choleg y Drindod, Caerfyrddin, coleg eglwys ym Mhrifysgol Cymru. 

Bydd y cynllun cydweithredol hwn yn cyfuno arbenigedd dau sefydliad addysg uwch o bwys yng Nghymru ac yn darparu llawer o brofiad ac arbenigedd pwnc i gefnogi’r maes Addysg Grefyddol broffesiynol ar hyd a lled Cymru.
Mae’r fenter newydd hon yn cyfuno traddodiad hir o ragoriaeth mewn Addysg Gychwynnol Athrawon ddwyieithog a Datblygiad Proffesiynol athrawon Addysg Grefyddol, darparu graddau AG/AC dwyieithog a rhaglenni graddau uwch dwyieithog ac ymchwil dwyieithog o safon ryngwladol ym maes Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.

Mae’r Ganolfan wedi mwynhau bron i 30 mlynedd o gefnogaeth gan awdurdodau lleol a chyrff eraill sydd wedi cyfrannu’n flynyddol at yr adnoddau sydd ar gael i athrawon, ynghyd â chostau cyhoeddi ‘Newyddion AG’. Mae’r Ganolfan yn edrych ymlaen at barhad y gefnogaeth honno a pherthynas a all sicrhau bod y Ganolfan a’i chefnogwyr yn parhau i ddiwallu anghenion y maes AG ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Mr Vaughan Salisbury, a fydd yn cymryd ei le fel Cadeirydd Cymdeithas CYSAG Cymru yn fuan: “Rwy’n falch dros ben bod Bangor a’r Drindod yn cyfuno eu rhagoriaeth yn y maes hwn ac yn cryfhau eu cydweithio. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r gymuned AG ar hyd a lled Cymru.” 

Ychwanegodd yr Athro Janet Pritchard, Pennaeth Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, lle mae’r Ganolfan wedi ei lleoli, "bydd dod â dau sefydliad addysg uwch o bwys, gydag enw da am ddwyieithrwydd a rhagoriaeth, un yn y Gogledd ac un yn y De, at ei gilydd fel hyn yn adnodd effeithiol ac egnïol ar gyfer Addysg Grefyddol i Gymru gyfan.”